Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Committee for the Scrutiny of the First Minister

 

 

Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

 

                                                                  

20 Awst 2013

 

 

 

 

 

 

 

                                          

Annwyl Brif Weinidog

 

Prosiectau Seilwaith Mawr yng Ngogledd Cymru

 

Hoffem ddiolch i chi a’ch swyddogion am ddod gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 19 Gorffennaf ac am deithio i Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog.

 

Canolbwyntiodd ein sesiwn graffu ar seilwaith economaidd fel ffyrdd, rheilffyrdd, ynni, gwastraff a TGCh. Rydym yn ddiolchgar ichi am ateb ein cwestiynau, yn enwedig y cwestiynau hynny a gyflwynodd aelodau’r cyhoedd drwy Twitter a Facebook. Roedd yn ddull ymgysylltu ffrwythlon iawn i bawb ohonom.

 

Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cryfhau seilwaith Cymru o ran bod yn uned gydlynol er mwyn gwella ei gallu i gystadlu’n economaidd. Mae’n hollbwysig fod gogledd Cymru yn chwarae rhan lawn yn nhwf economaidd y wlad, ac rydym yn ffyddiog y bydd ein hargymhellion isod yn helpu’r broses honno.

 

Trosolwg Strategol

 

Gwnaethoch gytuno, er mwyn buddsoddi mewn seilwaith mawr, fod angen i Gymru wneud rhagor i ganfod ffynonellau eraill, fel y Banc Buddsoddi Gwyrdd, er mwyn sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cylch nesaf y Cronfeydd Strwythurol, a gwnaethoch dderbyn bod rhaid i Gymru ddechrau symud i gyfnod o drosglwyddo o ddibyniaeth ar Gronfeydd Strwythurol. Credwn y dylai hyn gynnwys targedu i raddau mwy yn y dyfodol gan flaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu seilwaith o fewn fframwaith gofodol cyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn pryderu am nifer y cynlluniau a’r strategaethau sydd ar waith neu sy’n cael eu datblygu ac sy’n ceisio cyflawni’r dull gweithredu hwnnw sydd wedi’i dargedu - gan gynnwys y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, Cynllun Gofodol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru, a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd y bu ichi ddweud na fyddai ar waith tan ar ôl y Bil Diwygio Cynllunio. Gwnaethoch gadarnhau mai Cynllun Gofodol Cymru sy’n parhau i ddarparu’r fframwaith cyffredinol, er ei bod yn bum mlynedd ers iddo gael ei ddiweddaru, cyn i Gynlluniau Sector ac Ardaloedd Menter gael eu cyflwyno. Gwnaethoch sôn hefyd am Lif Cyflawni sy’n ceisio cydgysylltu buddsoddiadau ar draws lefelau gwahanol o lywodraeth.

 

Argymhelliad 1:

Hoffem ichi egluro sut y bydd yr holl gynlluniau a strategaethau hyn gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu’n gydlynol ac yn effeithiol ledled Cymru ac ar draws portffolios y Gweinidogion. Efallai y gallech gyflwyno hyn ar ffurf diagram fel y gallwn weld sut y maent oll yn cyd-fynd â’i gilydd.

 

Buddion Cymunedol

 

Un o’r themâu amlycaf a ddeilliodd o’n trafodaethau â chi, ac o’r sesiwn gyhoeddus wedyn, oedd sut y gellid cysoni anghenion cenedlaethol ag effeithiau lleol. Nododd nifer o bobl y pwynt ynghylch sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu cynnwys yn llwyr yn y broses o wneud penderfyniadau, a’u bod yn gallu cael buddion uniongyrchol o ddatblygiadau seilwaith mawr sydd wedi’u lleoli yn eu hardal, er enghraifft drwy daliadau ariannol uniongyrchol neu ynni rhatach, cefnogaeth i brosiectau cadwraeth, neu berchnogaeth ar gynlluniau ynni adnewyddadwy sydd wedi’u lleoli yn y gymuned.

 

Rydym yn ymwybodol o’r datganiad buddion cymunedol drafft y cytunodd yr diwydiant ynni adnewyddadwy arno yn ddiweddar. Credwn fod angen mabwysiadu dull gweithredu mwy trylwyr a strategol yng nghyswllt seilwaith economaidd mawr, a hynny ar draws ei holl ffurfiau. Gwnaethoch gyfeirio at amrywioldeb y dulliau gweithredu a fabwysiadir gan wahanol gwmnïau ac mewn gwahanol sefyllfaoedd, ond gwnaethoch ymateb yn gadarnhaol i’r syniad o gymunedau lleol yn cael budd uniongyrchol. Gwnaethoch sôn am yr angen i feddwl yn ehangach am y mater pwysig hwn, a defnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio newydd i bennu trefniadau newydd.

 

Argymhelliad 2:

Hoffem wybod sut rydych yn cynnig datblygu meddylfryd a dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod cymunedau lleol yn cael buddion uniongyrchol o bob math o ddatblygiad seilwaith mawr, p’un a yw wedi’i leoli yn eu hardaloedd neu’n effeithio arnynt.

 

Ynni

 

Gwnaethoch gyfeirio at ddiffyg pwerau Llywodraeth Cymru dros gynlluniau ynni mawr o’i chymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys pwerau dros y Grid Cenedlaethol a’r gyfundrefn cymorthdaliadau. Gwnaethoch ddatgan bod mwy o bwerau yn hanfodol er mwyn i Gymru ddatblygu dull gweithredu cyfunol a strategol yng nghyswllt ynni yn y dyfodol.

 

Credwn fod cryn ddryswch ymysg y cyhoedd o ran pwy sy’n gyfrifol am brosiectau ynni mawr, ac rydym yn cefnogi eich galwadau am ddatganoli pwerau i Gymru fel y gellir cael proses gwneud penderfyniadau a gwaith craffu priodol.

 

Gwnaethom drafod hefyd gynlluniau unigol fel y cynnig ynghylch cyswllt trydan ar waelod y môr rhwng gogledd Cymru a sir Benfro.

 

Argymhelliad 3:

Nid oeddem yn sicr a oeddech yn datgan eich bod yn cefnogi’r cynnig ynghylch cael cysylltiad cebl ar waelod y môr rhwng gogledd a gorllewin Cymru, ac felly hoffem ichi egluro eich safbwynt o ran y cynnig hwn.

 

Yn y sesiwn gyhoeddus ar ddiwedd y cyfarfod, mynegwyd pryderon am gynigion ynghylch Gorsaf Bŵer Tyrbin Nwy newydd yn Wrecsam.

 

Argymhelliad 4:

Byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â datblygu gorsafoedd pŵer newydd yng Nghymru a gaiff eu pweru gan nwy.

 

 

 

Trafnidiaeth

 

Buom yn sôn am y gwaith o ailddyblu’r rheilffordd o Wrecsam i Gyffordd Saltney yn ein trafodaeth ni ac yn y sesiwn gyhoeddus wedyn. Gwnaethoch sôn y byddai’r cynllun yn cyflymu gwasanaethau rheilffordd o amgylch Wrecsam ac y byddai’n cynorthwyo datblygiad economaidd ar draws y rhanbarth. Eglurodd eich swyddog, James Price, fod oedi sylweddol wedi bod yng nghyswllt y prosiect ond y byddai Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn mynd ati i’w ddatrys. Cyfeiriodd Mr Price at y ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau gorfodi yng nghyswllt Network Rail. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y prosesau sy’n ymwneud â chymeradwyo’r cynllun, gyda golwg ar sicrhau cytundeb contractiol gwell â Network Rail a gwell gwerth am arian.

 

Cefnogwn eich ymdrechion i sicrhau y caiff pwerau pellach dros seilwaith y rheilffyrdd eu datganoli, ynghyd ag arian cymesur gan Lywodraeth y DU. Yn y cyfamser, rydym yn ceisio eglurder o ran y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r cynllun ynglŷn â’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney, a hoffem ragor o fanylion am gynnydd trafodaethau’r Llywodraeth â Network Rail ac amserlen glir ar gyfer y gwaith gweithredu.

 

Argymhelliad 5:

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynllun rheilffordd Wrecsam i Gyffordd Saltney i bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru, a hoffem weld Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth, ac eglurder o ran ei diben, wrth fwrw ymlaen â’r cynllun hwn cyn gynted â phosibl.

 

Pwysleisiwyd yn y cyfarfod bwysigrwydd coridor yr A494/A55 gan ei bod yn borth i ogledd Cymru, ac yn enwedig yr angen i ddileu’r dagfa bresennol yn Aston Hill.

 

Argymhelliad 6:

Byddai’n ddefnyddiol cael gwybod pryd y bydd cynllun i ddileu’r dagfa bresennol yn Aston Hill ar yr A494 yn cael ei weithredu.

 

Hoffem hefyd ichi barhau i gyflwyno’r achos o blaid moderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru, yn enwedig i wrthbwyso’r effaith economaidd os bydd teithwyr sy’n defnyddio’r Rheilffordd Gyflym (HS2) i deithio yn ôl ac ymlaen o ogledd Cymru yn gorfod newid yn Crewe. Rhaid i HS2 beidio ag arwain at lai o fuddsoddi ym Mhrif Reilffordd bresennol Arfordir y Gorllewin.

 

Yn ystod y sesiwn gyhoeddus, cafodd mater ei grybwyll ynglŷn â’r diffyg cyfleusterau parcio a gorffwys ar gyfer gyrrwyr cerbydau nwyddau trwm ar hyd yr A55, sy’n ffordd strategol.

 

Argymhelliad 7:

A allech nodi sut y bydd cyfleusterau parcio a gorffwys ar gyfer diogelwch gyrrwyr cerbydau nwyddau trwm a phobl eraill sy’n teithio ar hyd yr A55 yn cael eu gwella.

 

Pwynt arall a wnaed yn ystod y sesiwn gyhoeddus, ac a fynegwyd yn dda, oedd nad y prif ffyrdd a rheilffyrdd strategol yn unig sy’n deilwng o gael buddsoddiad. Mae cysylltiadau rhwng Aberystwyth a gogledd Cymru a llwybrau teithio eraill ar draws y rhanbarth hefyd yn bwysig at ddibenion busnes a domestig. Byddem yn falch o gael nodyn pellach sy’n cyflwyno cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd yn yr ardal hon.

 

 

 

 

Datblygu economaidd

 

Buom yn siarad am y tair Ardal Fenter yng ngogledd Cymru a phwysigrwydd sicrhau nad yw cwmnïau’n dadleoli o ardaloedd eraill y tu allan i’r ardaloedd hyn.

 

Buom yn siarad hefyd am y gwaith o gyflwyno Band Eang y Genhedlaeth Nesaf. Yn ystod y sesiwn gyhoeddus a gynhaliwyd ar ôl ein trafodaeth â chi, mynegwyd pryderon na all ardaloedd pwysig fel ystâd ddiwydiannol Wrecsam fanteisio ar gynllun Band Eang Cyflym Iawn BT, a rhwystredigaeth pobl oherwydd nad yw BT yn rhyddhau ardaloedd anodd eu cyrraedd o’r fath yn ddigon cyflym o’i broses o gyflwyno band eang masnachol fel y gall busnesau a thrigolion gael ymyriad cyflym o ffynonellau eraill.

 

Argymhelliad 8:

Hoffem ichi ddarparu datganiad clir am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod datrysiad cyflym i’r rhwystrau sy’n atal ardaloedd anodd eu cyrraedd rhag cael mynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf.

 

Yn ystod y sesiwn gyhoeddus, nodwyd hefyd fod rhaglenni buddsoddi cyfalaf wedi’u tynnu’n ôl yn sydyn mewn cynlluniau adfywio, fel Wrecsam.

 

Argymhelliad 9:

Byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ailalinio ei chyllid adfywio a’r goblygiadau i ardaloedd lle y cafodd cyllid ei dynnu’n ôl.

 

 

 

 

 

Yr amgylchedd

 

Yn ystod ein trafodaeth ar lifogydd yng ngogledd Cymru, gwnaethoch gyfeirio at y ffaith ei bod yn bosibl nad oedd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15, a gyflwynwyd yn 2004, wedi mynd yn ddigon pell i atal llifogydd.

 

Argymhelliad 10:

Hoffem wybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd, a phryd y bydd yn gwneud hynny.

 

Biodanwyddau

 

Yn olaf, yn ystod y sesiwn gyhoeddus, gofynnwyd inni am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith i ddatblygu biodanwyddau yng ngogledd Cymru. Byddem yn croesawu nodyn gennych ar y mater hwnnw.

 

Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau yr ydym wedi’u crybwyll. Bydd ein llythyr a’ch ateb yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Yn gywir

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog